Mae Hi’n Rhedeg: Caerdydd
Rhyw berthynas marmite oedd gen i â rhedeg. Erioed wedi f’ystyried fy hun yn rhedwraig naturiol ac i fo’n onest, ro’n i’n casáu rhedeg fel person ifanc. Roedd y syniad o redeg traws gwlad neu rasys mabolgampau yn yr ysgol yn codi ofn arna i braidd er fy mod yn mwynhau chwaraeon. Rwy’n credu mai’r teimlad hwnnw o fod yn rhedeg fel unigolyn a theimlo dan bwysau i gyrraedd rhyw amser neu bellter penodol oedd yn creu rhyw bryder. Y marmite roeddwn, bryd hynny, yn ei gasáu! Felly mae’n dipyn o syndod fy mod i erbyn hyn yn ysgrifennu blog ar gyfer cymuned o redwyr!
Fe wnes i greu rhyw berthynas newydd â rhedeg yn fuan ar ôl gadael y brifysgol mewn ymdrech i golli pwysau a theimlo’n well. Ac yna yn ystod cyfnod o gael plant roedd y Marmite yn ei ôl a’r syniad o fynd allan i redeg yn teimlo fel rhyw dasg amhosibl a diflas ar adegau.
Mae hyn i gyd yn teimlo fel rhyw oes wahanol erbyn hyn gan fod rhedeg yn rhyw norm newydd imi a dim byd gwell gen i na threfnu cwrdd â ffrind i redeg. Ac allan fydda i ryw deirgwaith yr wythnos yn loncian a chlebran, dwy droed o flaen y llall! Mae’n rhoi cyfle i mi fod yn fi fy hun – meddwl, ymlacio, cael hoe, rhannu sgwrs a theimlo’n llawer gwell o wneud. Mae’n bwysig o ran fy iechyd meddwl , fy iechyd corfforol a lles y teulu yn aml iawn – dwi fel arfer mewn hwyliau gwell o fod wedi bod allan yn rhedeg!
Mae’r profiad o fod yn rhan o gymuned o redwyr yn un gwych hefyd a chewch chi ddim gwell na chymuned o ferched Mae Hi’n rhedeg: Caerdydd. Criw o unigolion cefnogol, brwdfrydig sydd yno i’ch cymell chi o’r soffa i’r stryd. Does dim angen poeni am gyflymdra, am bellter, am wibio neu loncian, am gyfuno’r rhedeg â cherdded. Mae pawb yno i’ch cefnogi chi ar hyd y ffordd ac i’ch annog i gymryd amser i chi eich hun a dyna sydd wedi fy annog i fachu ar bob cyfle i fynd allan.
Mae’r gefnogaeth ar-lein yn ystod y cyfnod clo wedi bod yn wych – negeseuon cyson ar Facebook a Trydar yn cynnig cefnogaeth ac ysgogiad i wisgo’r treinyrs a mynd allan am awyr iach. Roedd cael bod yn rhan o’r ras gyfnewid ddiweddar fel aelod o tîm 4 She Runs …a relay yn brofiad a fydd yn aros yn y cof – criw o ferched nad oeddwn yn eu hadnabod yn cefnogi ei gilydd i redeg – nid er mwyn ennill na thorri record ond er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r heriau sy’n wynebu rhai merched bregus yn ein cymdeithas. Mae’r syniad o fod yno i eraill yn rhan o’r ethos – cymuned o ferched sy’n cefnogi ei gilydd ym mhob agwedd ar fywyd.
Erbyn hyn dwi’n ffan mawr o marmite ac yn awchu am gwrdd â ffrindiau allan yn yr awyr agored i redeg strydoedd Caerdydd. Does dim teimlad gwell o godi ben bore, rhedeg o gwmpas parc y Mynydd Bychan neu lyn y Rhath a rhoi’r byd yn ei le gyda ffrind. Y gorau o ddau fyd a llawer mwy.
Rhowch eich treinyrs am eich traed ac ewch amdani – fe fyddwch chi yn sicr ar eich ennill mewn sawl ffordd.
Angharad Naylor, aelod Mae Hi’n Rhedeg: Caerdydd
